Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.

19 Chwefror 2013 – 17 Mawrth 2015

Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig

1.    Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.

 

Llyr Huws Gruffydd AC (Cadeirydd)

William Powell AC

Antoinette Sandbach AC

Russell George AC

Cat Griffith-Williams (Ysgrifennydd)

 

Caiff aelodau allanol a'r sefydliad(au) a gynrychiolir ganddynt eu gwahodd i gyfarfodydd y Grŵp yn dibynnu ar y pwnc a gaiff ei drafod.

 

Hoffai'r Ysgrifennydd ddiolch i'r Cadeirydd a'i swyddogion am eu brwdfrydedd a'u diwydrwydd yn galluogi'r Grŵp i weithio'n effeithiol.

 

2.    Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf.

 

Cyfarfod 1                     Gorwelion Newydd i Gymru Wledig

Dyddiad y cyfarfod:      08/05/13   

Yn bresennol:

Cadeirydd:                      Llyr Huws Gruffydd– Plaid Cymru (PC)               

Is-gadeirydd:                  Antoinette Sandbach AC – Ceidwadwyr Cymreig (C)

ysgrifennydd:                Yr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)

 

Aelodau'r Cynulliad:      Russell George – Ceidwadwyr Cymreig (C)

                   William Powell – Democratiaid Rhyddfrydol

Cymru (LD)

                   Rebecca Evans – Llafur Cymru (L)

                   Jocelyn Davies – (PC)

                   Janet Finch-Saunders – (C)

                   William Graham – (C)

Alun Davies – (L) a'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Yn bresennol:                Peter Ogden – YDCW

                                      Cat Griffith-Williams – YDCW

Dr Emyr Roberts – Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru

                                      James Byrne – Ymddiriedolaethau Natur Cymru

                                      Helen Murry – Planed

                                      Angela Charlton – Y Cerddwyr

                                      Tegryn Jones – Arfordir Sir Benfro

                                      Arfon Williams – RSPB Cymru

                                      Greg Pycroft – Parciau Cenedlaethol Cymru

                                      Tim Pagella – Grŵp Ymchwil Amgylcheddol Cymru

                                       Venessa Griffiths – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Julian Atkins – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

                                      Lee Waters – Y Sefydliad Materion Cymreig

                                      Malcolm Harrison – Pub is the Hub

                                      Tim Peppin – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Richard Tyler – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Prosiect Cynghreiriau Gwledig)

Dr Jill Venus – Ysgol Fusnes, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Ben Underwood – Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

                                      Ian James Johnson – Swyddfa Leanne Wood AC

                                      Stuart Taylor – Swyddfa'r Post Cyf

John Cook – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

                                      Catrin Davies – Ymchwilydd Grŵp Plaid Cymru

                                      Emyr Williams – Ymchwilydd Grŵp Plaid Cymru

                                      Dr Ruth Williams – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

                                      Andrew Stumpf – Dyfrffyrdd Prydain

Howard Davies – Cymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol 

Carys Howell – Ymgynghorydd Cyfathrebu / Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Matthew Quinn – Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

Gareth Jones – Llywodraeth Cymru

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Cyflwyniad gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Rhoddodd y Gweinidog drosolwg o'i safbwynt o'r hyn sydd i ddod mewn perthynas â'r heriau sy'n wynebu ardaloedd gwledig Cymru a'r economïau o fewn yr ardaloedd hyn. Gwahoddodd y Gweinidog y Grŵp Trawsbleidiol i fynegi ei farn a chael dadl agored a didwyll am rôl yr ucheldiroedd yn nyfodol Cymru.

Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr: RhoddoddCyfoeth Naturiol Cymrudrosolwg manwl o'r dull y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ddefnyddio i gyflawni ei rôl a darparu'r blaenoriaethau a amlinellir yn ei lythyr cylch gwaith cychwynnol gan y Gweinidog.

Rhoddodd Dr Jill Venus: Ysgol Fusnes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyflwyniad ar 'Asesu Bywiogrwydd Gwledig – Syniadau ar gyfer y Prosiect Cynghreiriau Gwledig' gan roi trosolwg i'r Grŵp o'r gwaith y mae'n ei ddatblygu gyda'i chydweithwyr yn yr Almaen yng nghyd-destun prosiect Cynghrair Wledig a ariennir gan yr UE a arweinir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Pwysleisiodd fod y gwaith yn dal i fynd rhagddo ond ei fod eisoes yn cynnig rhai syniadau a chanlyniadau pwysig. Dilynwyd gan sesiwn holi ac ateb.

Cyfarfod 2                     Datgloi potensial ucheldiroedd Cymru

Dyddiad y cyfarfod:      24/07/13

Ym Mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair ym-Muallt.

Yn bresennol:

Cadeirydd:                      Llyr Huws Gruffydd– Plaid Cymru (PC)               

Ysgrifennydd:                Yr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)

 

Yn bresennol:                Peter Ogden – YDCW

                                       Cat Griffith-Williams – YDCW

 

Gwnaeth cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Cyswllt Amgylchedd Cymru, Confor, yr Eglwys yng Nghymru, YDCW, Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, y Sefydliad Tirwedd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyd gyfrannu at y drafodaeth.

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cyflwyniad gan Arfon Williams RSPB: A yw gwydnwch amaethyddol yn cynnig datrysiad i'n hucheldiroedd? Gwybodaeth fanwl am ffermio sydd o Werth Mawr i Natur. Trafodaethau wedi'u hwyluso ynghylch materion allweddol gan Peter Ogden, Cyfarwyddwr YDCW.

 

Cododd y cwestiynau a ganlyn yn ystod y trafodaethau.

·         Pa rwystrau y mae angen eu goresgyn er mwyn sicrhau gwydnwch amaethyddol ar ffermydd ucheldiroedd ac mewn cymunedau gwledig?

·         Pa werth realistig y dylid ei roi ar y buddiannau golygfaol ac amgylcheddol nad ydynt yn ymwneud â'r farchnad a ddarperir gan yr ucheldiroedd?

·         Sut y dylid defnyddio ffermio sydd o Werth Mawr i Natur er budd i gymunedau gwledig lleol?

·         Beth sydd angen iddo ddigwydd i gefnogi'r rheini sydd am hyrwyddo ffermio sydd o Werth Mawr i Natur?

Lluniwyd adroddiad ar y trafodaethau yn y cyfarfod a chafodd ei anfon at y Gweinidog Alun Davies.

 

Cyfarfod 3                     Datblygu Cynaliadwy a chymunedau gwledig sy'n gadarn yn gynaliadwy

Dyddiad y cyfarfod:      01/10/13

 

Aelodau’r Cynulliad

a'u Staff Cymorth:         Llyr Huws Gruffydd AC (PC), Jeff Cuthbert AC (Llafur), Antoinette Sandbach AC (Ceidwadwyr), Russell George AC (Ceidwadwyr), Osian Lewis, Staff Cymorth (PC), Emyr Williams, Staff Cymorth (PC), Laura Cranmer, Staff Cymorth (Ceidwadwyr)

 

Yn bresennol:                Peter Ogden – YDCW, Cat Griffith-Williams – YDCW, Rhys Jones – Y Post Brenhinol, Stuart Taylor – Swyddfa'r Post, Natalie Rees – Cynnal Cymru, Irene Evison – Cyngor y Parciau Cenedlaethol, Alex Phillips – Llywodraeth Cymru, Karen Anthony – Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, Terry Marsden – Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Caerdydd, John Cook – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Edward Holdaway – Partneriaeth Tirweddau Cymru, Lowri Gwilym – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Beverley Penney – Y Gymdeithas Mannau Agored, Jay Kynch – Y Gymdeithas Mannau Agored, Ruth Williams – Y Sefydliad Tirwedd,  Emily Keenon – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Jon Cryer – RSPB.

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Cyflwyniad am y Prosiect Cynghreiriau Gwledig gan Richard Tyler o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Nododd Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am Ddatblygu Cynaliadwy sut y mae'n bwriadu sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn egwyddor ganolog i bob polisi a deddfwriaeth, a rhoddodd ei farn ar drechu tlodi mewn ardaloedd gwledig. Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol.

Roedd cyflwyniad gan Rhys Jones - Y Post Brenhinol yn nodi tair prif agwedd ar sicrhau cymunedau gwledig sy'n gadarn yn gynaliadwy:- mynediad, dewis a chysylltedd.

Cyflwyniad gan Stuart Taylor – Swyddfa'r Post.

Sylwadau'r Cadeirydd i gloi. CadarnhaoddLlyr Huws Gruffydd AC fod y papur 'Datgloi potensial ucheldiroedd Cymru' wedi'i anfon at Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd. Eglurodd y rheolau newydd ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol a bod angen cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i bleidleisio ar Gadeirydd, yn ogystal â'r canllawiau clir ynghylch cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd. Roedd yn fodlon iawn ar sut y mae YDCW wedi darparu ar gyfer yr Ysgrifennydd, a gofynnodd i'r rhai a oedd yn bresennol bleidleisio bod Cat Griffith-Williams, YDCW, yn parhau yn y rôl. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn ardystio'r penderfyniad.

Cyfarfod 4                     Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

                                      'Goblygiadau Gwledig y Bil Cynllunio'

Dyddiad y cyfarfod:      19/02/14

 

Aelodau’r Cynulliad

a'u Staff Cymorth:                                               Llyr Huws Gruffydd AC (PC),

                                      Russell George AC (C),

                                      Osian Lewis – staff cymorth (PC),

                                      Laura Cranmer – staff cymorth (C),

                                      Carl Sargeant AC (L), 

                                      Paul Pavia – staff cymorth (C). 

Yn bresennol:                Peter Ogden – YDCW,

                                      Cat Griffith-Williams – YDCW,

                                      Dr Roisin Willmott, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (Cymru),

                                      Alex Phillips – NAW,

                                      Edward Holdaway – Partneriaeth Tirwedd Cymru

                                      Raoul Brambral – Cyswllt Amgylchedd Cymru

                                      Karen Whitfield – Cyswllt Amgylchedd Cymru

                                      Laura Cropper – RSPB  

                                      James Byrne – Ymddiriedolaethau Natur Cymru,

                                      Andrew Stumpf - Glandŵr Cymru,

                                      Dr Ruth Williams – Sefydliad Tirwedd Cymru,

Richard Kirlew – Materion Gwledig ar gyfer yr Eglwys yngNghymru,

Siobhan Wiltshire – Llywodraeth Cymru, yr Is-adran Gynllunio,

Chris Lindley – Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru,

                                      Greg Pycroft – Parciau Cenedlaethol Cymru,

                                      Malcolm I Harrison – Pub is the Hub,

                                                           Russell De'ath, Adran Cyfoeth Naturiol                                                       a Bwyd, Llywodraeth Cymru,

                                      Karen Anthony – Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad,

                                      Aneurin Phillips – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,                                                  

                                      Elaine Davey,

                                      Jay Kynch – Y Gymdeithas Mannau Agored,

                                      Jim Wilson – Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog,

                                      Helen Rice – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:   Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

Llyr Gruffydd AC; Cadeirydd cyfredol y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig.  Fel gweithdrefn safonol, roedd yn rhaid ethol Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Felly, gofynnwyd i'r rhai a oedd yn bresennol gynnig enwebiadau ar gyfer y Cadeirydd. Enwebodd Dr Ruth Williams – Sefydliad Tirwedd Cymru, Llyr Gruffydd AC. Gan na chafodd unrhyw enwebiadau eraill eu gwneud, cytunodd y rhai a oedd yn bresennol yn unfrydol y dylai Llyr Gruffydd barhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp.  Gofynnodd Llyr hefyd am gadarnhad y dylai Cat Griffith-Williams, YDCW barhau i fod yn Ysgrifennydd i'r grŵp – cytunodd y rhai a oedd yn bresennol. Arweiniodd Llyr y drafodaeth ynghylch syniadau ar gyfer blaenraglen waith y Grŵp; roedd ystyried y Cynllun Datblygu Gwledig sydd i ddod, Cynllunio Morol, gan gynnwys y cysylltiad rhwng y tir a'r môr, a'r Cynllun Rheoli Adnoddau Naturiol i gyd yn bynciau a awgrymwyd.

 

Cyflwyniad gan Carl Sargeant AC: Y Gweinidog Tai ac Adfywio – Y Bil Cynllunio Drafft: Cynllunio Cadarnhaol. Dechreuodd y Gweinidog ei gyflwyniad drwy bwysleisio'r pwysigrwydd y mae'n ei roi ar wrando ar safbwyntiau eraill ynghylch manylion y Bil Cynllunio Drafft a'r dogfennau cysylltiedig a ddarperir. Nododd, yn ei farn ef, y dylai cynllunio fod yn rhywbeth sy'n ysgogi economi a chymdeithas Cymru ac na ddylai fod yn rhwystr. Dyma'r rheswm dros deitl y ddogfen ymgynghori, sef “Cynllunio Cadarnhaol”. Ei flaenoriaethau oedd darparu cartrefi digonol, sy'n wahanol i'r cysyniad o 'dŷ' yn unig.

 

Cyflwyniad gan Dr Roisin Willmott, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.

Rhoddodd Dr Wilmott safbwynt y Sefydliad ar gynnwys y Bil Cynllunio a nododd pa elfennau yr oedd yn eu cefnogi, yn ogystal â'r elfennau a oedd yn llai boddhaol yn eu barn hwy, ac y mynegwyd pryder yn eu cylch.

 

Cyfarfod 5                     Adolygiad o Lywodraethu Tirweddau Gwarchodedig yng Nghymru

Dyddiad y cyfarfod:      04/11/14

Cadeirydd Dros Dro:      William Powell – Democratiaid Rhyddfrydol (LD)           

Ysgrifennydd:                Cat Griffith-Williams - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig  (YDCW)

Ymddiheuriadau            Llyr Huws Gruffydd AC (Cadeirydd)

 

Yn bresennol:

Aelodau’r Cynulliad

a'u staff cymorth:         Russell George AC (C),

                                      Craig Lawton – Staff Cymorth Suzy Davies

                                      Yn bresennol:     

                                      Peter Ogden – YDCW,

Dr Roisin Willmott, Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (Cymru),

Edward Holdaway– Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Chynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru,

Andrew Stumpf– Glandŵr Cymru,

Greg Pycroft– Llywodraeth Cymru,

Andrew Tamplin– Swyddfa'r Post Cyf,

Laura Lewis– Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd,

Rebecca Brough– Y Cerddwyr,

Jim Wilson– Cymdeithas Parciau Bannau Brycheiniog,

Tegryn Jones– Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro / Parciau Cenedlaethol Cymru

Jo Wall – TACP,

Martin Bishop– Confor,

David Powell– Confor,

Rachel Lewis-Davies– Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr,

Charles de Winton– Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

Graham BurrowsYmgyrch yr Alban dros Barciau Cenedlaethol,

Carole Rothwell– Cyfoeth Naturiol Cymru,

Howard Sutcliffe– Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Beverley Penney – Y Gymdeithas Mannau Agored,

Melanie Doel– Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Siobhan Wiltshire – Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru,

Ruth Bradshaw – Yr Ymgyrch Parciau Cenedlaethol

Emily Keenen – Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Rachael Sharp – Yr Ymddiriedolaeth Natur

Madeline Harvard – Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Yr Athro Terry Marsden – Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Lleoedd

Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Cadeirydd Annibynnol – Tirweddau Dynodedig

Panel Adolygu

 

Soniodd yr Athro Terry Marsden am ba mor falch yr oedd ei fod wedi cael ei wahodd i gadeirio'r adolygiad hwn o ardaloedd dynodedig yng Nghymru a nododd pa mor bwysig ydoedd fod yr ardaloedd hyn yn cael eu gwarchod a'u bod yn gweithredu mewn ffordd briodol yng nghyd-destun polisi. Amlygodd yr angen i ddatblygu dulliau sy'n adlewyrchu rôl a pherthnasedd yr ardaloedd dynodedig hyn fel enghreifftiau o ddatblygu cynaliadwy. Amlinellodd ddau gam amlwg yr adolygiad gyda chasgliadau'r cam cyntaf yn cael eu hadrodd i'r Gweinidog erbyn diwedd mis Ionawr 2015 cyn dechrau'r ail gam wedi hynny. Rhagwelwyd y byddai gwaith y Panel wedi'i gwblhau ac y byddai'r casgliadau cyffredinol wedi'u cyflwyno i'r Gweinidog erbyn diwedd mis Gorffennaf 2015.

 

Cyfarfod 6                     Gyrru oddi ar y ffordd yn y Gymru Wledig

A yw'r budd economaidd yn fwy na'r niwed i'r amgylchedd?

Dyddiad y cyfarfod:               27/01/15

Cadeirydd:                                Llyr Huws Gruffydd AC (PC)  

Ysgrifennydd:                Cat Griffith-Williams - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig  (YDCW)

 

Yn bresennol:

Aelodau’r Cynulliad

a'u Staff Cymorth:         Russell George  - (C),

                                      William Powell– (LD)

                                      Antoinette Sandbach – (C)

                                      Elin Jones -  (PC)

                                      Aled Roberts –(LD)

                                      Mark Isherwood –(C)

 

Siaradwyr gwadd:

 

Yn bresennol:

Robin Hickins – Treadlightly
Duncan Green – Treadlightly
Y Parch Richard Kirlew – Yr Eglwys yng Nghymru

Sheila Wren - Ymddiriedolaeth John Muir
Rachel Evans - Y Gynghrair Cefn Gwlad
Anita Banks - Ar ran Alun Davies AC
Robert Taylor - Llywodraeth Cymru
Rachel Lewis-Davies - NFU Cymru
Alun Jones - Cymdeithas Mynyddoedd Cambria
Rosemary Watton - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig
Diana Mallinson - SOPS / GLPG
Hannah Norman - ar ran Cerddwyr Cymru
Jocelyn Kynch - y Gymdeithas Mannau Agored

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Mr Adrian Walls: Rheolwr Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ddinbych; Ysgrifennydd Grŵp Rheoli Hawliau Tramwy Cymdeithas y Syrfewyr Sir yng Nghymru / Aelod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Cynllunio'r Amgylchedd a Thrafnidiaeth o'r Pwyllgor Seneddol ar Adolygu Hawliau Tramwy

 

Mr Jont Bullbeck

Arweinydd Tîm Mynediad, Hamdden a Thwristiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru

Grŵp Llywio Moduro Oddi ar y Ffordd Cymru (WORMSG)

 

Gwnaed cyfraniadau gan bob un o'r cynrychiolwyr ar ran y grwpiau Lonydd Gwyrdd, Cilffyrdd, y grwpiau Llwybrau Ceffyl, a chynrychiolwyr y defnyddwyr Cerbydau Oddi ar y Ffordd.

 

Gwnaed cyflwyniadau ynghylch gwahaniaethu rhwng y defnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon

o gerbydau modur hamdden. Cyflwynwyd data ar stoc oddi ar y ffordd posibl

a chyfranogiad posibl. Cyflwynwyd ystadegau a chanfyddiadau ar safleoedd

a llwybrau oddi ar y ffordd yng Nghymru. Trafodwyd amcangyfrifon y buddiannau economaidd,

yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd.

 

Cyfarfod  7           Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – Ethol y Cadeirydd a'r                             Ysgrifennydd

Lansio'r adroddiad Adfer Ban a Chwm (ABC) Adroddiad ar safbwyntiau ynghylch tai fforddiadwy a defnyddio adeiladau brodorol segur er mwyn helpu i ddiwallu'r angen hwn mewn cymunedau gwledig.

 

Dyddiad y cyfarfod:               17/03/15

Yn bresennol:

Cadeirydd:                                Llyr Huws Gruffydd AC (PC)  

Ysgrifennydd:                                                                Cat Griffith-Williams - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)

                                     

                                      Aelodau’r Cynulliad

a'u Staff Cymorth:         Russell George  - (C),

                                      William Powell– (LD)

                                      Mark Isherwood –(C)

                                      Alun Ffred Jones  - (PC)

                                      Gareth Llewellyn – Swyddfa Leanne Wood AC (PC)

 

Yn bresennol:     

Moira Lucas – Cyngor Abertawe

Karen Anthony – Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Cymru

Edward Holdaway – Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru

Cat Griffith-Williams – YDCW

Peter Ogden – YDCW

Carys Matthews – YDCW

Julian Preece – Cyngor Sir Powys

Stuart Davies – Cyngor Sir Powys

Joanie Speers – ABC

Roger Mears – ABC

Nico Jenkins – ABC

Anjuli Quartermaine – ABC

Helen Whitear – ABC

David James – ABC

Lee Cecil - Asiant Capital

Kate Biggs – Cyngor Sir Mynwy

Judith Leigh – SPAB (Cymru)

Richard Keen – APT AHF (Cymru)

Roisin Willmott – Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru

Helen Fry – BBNPA

Ryan Greaney – BBNPA

Helen Roderick – BBNPA

Carys Howell – Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Y Cynghorydd Geraint G Hopkins – BBNPA

Mark Major – Staff Cymorth Suzy Davies AC

Roger Belle – Pub is the Hub

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – AgoroddLlyr Huws Gruffydd AC y Cyfarfod a diolchodd i bawb am ddod. Eglurodd ei bod yn un o ofynion blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd ar gyfer y Grŵp. Fel y Cadeirydd cyfredol, trosglwyddodd Llyr y gweithdrefnau i Peter Ogden a aeth yn ei flaen i egluro'r protocoliau o ran gweithredu Grŵp Trawsbleidiol. Gofynnodd am gynigion ar gyfer Cadeirydd ac ailetholwyd Llyr Huws Gruffydd AC yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig. Mynegodd YDCW ei fod yn fodlon parhau am flwyddyn arall fel yr Ysgrifennydd, a gofynnodd Llyr am bleidlais i dderbyn YDCW fel yr Ysgrifennydd. Pleidleisiwyd o blaid hyn a bydd YDCW yn parhau i fod yn Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig.

 

Siaradwyr gwadd:

 

Cyflwynodd Joanie Speers, sylfaenydd/cyfarwyddwr ABC, waith ABC, y hanes y tu ôl i'r prosiect, a beth y mae ABC yn gobeithio ei gyflawni gyda'r lansiad hwn. Eglurodd pam y galwyd y sesiwn yn 'Dyfodol Cymru Wledig: treftadaeth ar lawr gwlad a thai fforddiadwy' gan fod dau beth y gellir ei ddweud yn gwbl hyderus: Mae llawer o adeiladau brodorol segur yng nghefn gwlad Cymru ac mae angen tai fforddiadwy yng Nghymru wledig. 

 

Rhannodd Nico Jenkins, Swyddog Datblygu Rhaglen ABC, brif ganfyddiadau'r prosiect.

 

Siaradodd David James, Galluogwr Tai Gwledig Sir Fynwy am ei brofiad ynghylch yr angen am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

 

Ailadroddodd Joanie yr hyn y mae ABC am ei gyflawni; mae ABC angen i'r aelodau gyflawni tri pheth, yn syml: 1) Helpu i ddwyn y ddau fater ynghyd ar agenda'r Cynulliad a sicrhau bod y Bil Treftadaeth a'r Bil Cynllunio yn cefnogi'r dull cyfunol hwn. 2) Helpu i gymryd argymhellion ABC o ddifrif, er eu bod yn uchelgeisiol. 3) Helpu ABC i ddangos y gall hyn weithio, ac mae hynny'n golygu ardystiad, ymrwymiad ac, wrth gwrs, cymorth ariannol.

 

Gofynnodd ABC hefyd am gymorth uniongyrchol gan y Grŵp Trawsbleidiol yn cyfleu'r neges drwy ofyn i'r Grŵp ystyried pum argymhelliad posibl. Dylid nodi hefyd mai dyma oedd safbwyntiau gwreiddiol ABC.  Awgrymodd Peter Ogden fod pawb yn y cyfarfod yn cael cyfle i ystyried argymhellion ABC (mae'r manylion ar gael yn y cofnodion ar wefan swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru), ac ymateb iddynt.  Unwaith y cesglir unrhyw sylwadau, byddai Peter Ogden yn llunio cyfres y cytunir arni o argymhellion i'r Grŵp Trawsbleidiol eu hystyried.

 

Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Nid oedd y Grŵp wedi cwrdd ag unrhyw lobïwyr proffesiynol.

 

Nid oedd y Grŵp wedi cwrdd ag unrhyw sefydliadau gwirfoddol neu elusennau y tu allan i’r cyfarfod hwn.

              


 

Mae YDCW, fel ysgrifennydd y Grŵp, wedi bod yn gyfrifol am gydgysylltu ac adrodd ar ganlyniadau pob cyfarfod yn ystod blwyddyn weithredol lawn y Grŵp hwn.

 

Yn unol â hyn, mae adroddiad cryno blynyddol ar y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig wedi'i lunio ar ran y Cadeirydd gan:

 

YDCW

Tŷ Gwyn

31 Stryd Fawr

Y Trallwng

Powys

SY21 7YD


 

Datganiad Ariannol Blynyddol.

19 Chwefror 2013 - 17 Mawrth 2015

Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig

Cadeirydd:                               Llyr Huws Gruffydd – Plaid Cymru            

Ysgrifennydd:                Cat Griffith-Williams – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig  (YDCW)

Treuliau’r Grŵp.

 

Dim.

£0.00

Cost yr holl nwyddau.

 

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddiannau a gafwyd gan y grŵp neu gan aelodau unigol o gyrff allanol.

 

Ni chafwyd buddiannau.

£0.00

Ysgrifennydd neu gymorth arall.

 

Cost amser yr Ysgrifennydd.

£3450

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, fel lletygarwch.

 

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi talu am yr holl luniaeth.

 

Dyddiad

Disgrifiad o’r darparwr a’i enw

 

Costau

8/5/13

 

 

01/10/13

 

19/2/14

 

4/11/14

 

27/1/15

 

17/3/15

Arlwyaeth fewnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

“                 “                “

 

 

“                 “                “

 

“                 “                 “

 

“                 “                 “

£170.88

 

 

£74.04

 

£205.32

 

£63.00

 

£126.12

 

£236.52

 

Cyfanswm y costau

 

£4325.88